Back to Search
Start Over
‘Mae’r Beibl o’n tu’ : Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868)
- Publication Year :
- 2022
-
Abstract
- Hon yw'r astudiaeth gyntaf mewn unrhyw iaith sy'n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838–68, sef oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yno. Gan ddefnyddio'r wasg gyfnodol fel sail, cyflwynir trafodaeth wreiddiol am y modd y syniai'r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd. Asesir y modd y gwnaeth syniadaeth grefyddol a chyfeiriadaeth Feiblaidd dreiddio'r erthyglau, yr ysgrifau, y darnau o farddoniaeth a'r rhyddiaith greadigol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolion Cymraeg yr Unol Daleithiau, gan gynnig mewnwelediad unigryw i'r farn gyhoeddus Gymraeg a Chymreig-Americanaidd am gaethwasiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylanwadodd adnabyddiaeth y Cymry Americanaidd â'r Beibl yn ddwys ar eu meddwl, eu dychymyg a'u gweithgarwch o ddydd i ddydd, ac yn y gyfrol hon bwrir goleuni o'r newydd ar baradocs gwlad a goleddai gaethwasiaeth tra yn ymfalchïo yn ei rhyddid.
Details
- Language :
- Welsh
- ISBNs :
- 9781786838858
- Database :
- eBook Index
- Journal :
- ‘Mae’r Beibl o’n tu’ : Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868)
- Publication Type :
- eBook
- Accession number :
- 3719228